Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2019
Amser:
08.50 -
10.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5477
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Mike Hedges AC (yn lle Jack Sargeant AC) Leanne Wood AC |
Tystion: |
Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Neil Hemington, Llywodraeth Cymru Stephen Phipps, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol yn lle Jack Sargeant.
Croesawodd y Cadeirydd Michelle Brown i’w chyfarfod cyntaf fel aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps.
Cytunodd y Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb hon gyda P-05-881 Trwsio ein system gynllunio i'w thrafod yn y dyfodol, a dychwelyd at y ddwy ddeiseb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am y camau nesaf mewn perthynas â'i hadolygiad o ddarparu tai drwy'r system gynllunio.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps.
Cytunodd y Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb hon gyda P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1 i'w thrafod yn y dyfodol, a dychwelyd at y ddwy ddeiseb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am y camau nesaf mewn perthynas â'i hadolygiad o ddarparu tai drwy'r system gynllunio.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps.
Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gan gynnwys y potensial ar gyfer apeliadau lle cymeradwywyd cais cynllunio yn groes i gynnwys cynllun datblygu lleol, sut mae modd herio penderfyniadau cynllunio, a phrosesau ar gyfer monitro perfformiad arolygwyr cynllunio.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps.
Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r deisebydd i ofyn am ei ymateb i'r dystiolaeth a glywyd ac i nodi barn y Pwyllgor nad yw'n ymddangos bod llawer arall y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd, oni bai bod gan y deisebydd unrhyw wybodaeth ychwanegol i'w rhannu.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth y cyflwynodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a chytunwyd ar gamau gweithredu pellach ar bob un o'r deisebau a drafodwyd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ymateb yn ysgrifenedig i’r Gweinidog Addysg i ofyn:
o a fyddai'n ystyried 'dynodi' y cyrsiau a ddarperir gan Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis i alluogi myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i gael cymorth i fyfyrwyr i astudio yno; ac
o a oes unrhyw drafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r sefydliad am hyn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol i ymchwilio yn fanylach i'w pryderon mewn perthynas â'r Llwybr Coch arfaethedig.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru i ofyn am ei farn am y ddeiseb a gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch addysgu Cymraeg mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r deisebydd. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer pellach y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd yng ngoleuni natur faith y dadleuon sy'n ymwneud â mynediad at ddŵr mewndirol, a'r dull gweithredu a gynigiwyd gan y Dirprwy Weinidog yn dilyn yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y deisebau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y deisebau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r mater yn ei flaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â Refill, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn drwy'r broses ddeisebau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebwyr.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn y camau a gymerwyd i atgoffa penaethiaid, cyrff llywodraethu ac eraill am yr angen i sicrhau bod asesiadau risg dosbarth Dylunio a Thechnoleg yn cael eu diweddaru drwy'r cylchlythyr Dysg. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i wneud Senedd Ieuenctid Cymru yn ymwybodol o'r ddeiseb yng nghyd-destun y gwaith y mae'n ei ddatblygu ynghylch sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Cytunodd y Pwyllgor i aros am ei chanfyddiadau cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i aros am farn y deisebydd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.